Hawl i Holi – Haf Llewelyn

Mae Gwenwyn a Gwasgod Felen, nofel ddiweddaraf Haf Llewelyn i bobl ifanc, bellach wedi cyrraedd y siopau. Dewch draw am sgwrs hefo Haf i ddarganfod mwy am y llyfr…

 DSC_0003Stori am be ydi Gwenwyn a Gwasgod Felen?

Stori am degwch ac anhegwch yn anad dim arall. Yn 1865, doedd gan bobl gyffredin ddim hawliau, roedd eu bywydau yn aml yn ddibynnol ar bobl eraill ac roedd hynny’n gwneud bywyd yn ansicr iawn. Fel pob ardal arall yng Nghymru, roedd ardal y Bala yn cael ei rheoli gan feistri tir, oedd yn credu y dylai pawb blygu iddyn nhw. Stori ydi hon am y bobl hynny oedd yn ddigon dewr i sefyll ar eu traed a herio’r drefn. O’i herwydd nhw, rydan ni heddiw yn rhydd i wneud penderfyniadau droson ni’n hunain.

 

Be oedd yr ysbrydoliaeth neu’r ysgogiad i sgwennu stori oedd yn trin a thrafod y pynciau hyn?

Pan mae’n dod yn amser i bobl bleidleisio yma yng Nghymru, dros blaid, neu refferendwm, mae yna nifer o bobl yn anwybyddu’r holl beth, ac yn peidio pleidleisio.  Dwi o’r farn fod hynny’n ffordd ddiog o wneud pethau. Fe ddylen ni gyd feddwl droson ni’n hunain a rhoi croes ar bapur – wedi’r cwbl fe fu’n cyn-deidiau yn brwydro’n galed i ni gael yr hawl i roi ein barn yn rhydd.

 

Clawr Gwenwyn 3Medi18 ii-1

Sut fyddi di’n mynd ati i sgwennu nofel hanesyddol? Beth oedd y broses ymchwilio?

Fel arfer, bydd y stori gen i yn barod – roedd stori Hedd Wyn, er engraifft yn un roedd pawb yn  gwybod amdani. Mae stori helyntion  ffermwyr ardal Y Bala yn un sydd yn enwog yn yr ardal leol hefyd, ond mae’n rhaid rhoi gwisg newydd ar y stori. Felly mae’n rhaid gwneud gwaith ymchwil manwl i fod yn siwr o’r ffeithiau, mae angen darllen o amgylch y pwnc, a dod o hyd i gymeriadau diddorol, rhai yn gymeriadau gwir,  ac yna creu rhai dychmygol. Wrth gwrs, dydan ni ddim yn gwybod sut roedd y cymeriadau gwir yn meddwl yn union, felly rhaid ymchwilio i’r cymeriadau, er mwyn ceisio cael y darlun ohonynt mor agos at y gwir a phosibl. Mae’n braf dod o hyd i gymeriadau oedd yn byw yn yr ardal  e.e. Jones y Cwnstabl (dois o hyd iddo wrth bori trwy cyfrifiad 1861) ac yna creu cymeriad o’i amgylch.

 

Pwy ydi dy hoff gymeriad di yn y nofel a pam?

Mali Ifan – dydi hi’n malio dim am neb, ac mae hi’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun.

 

Beth fyddai dy gyngor di i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu?

Dos amdani. Mae tudalen wen, wag weithiau’n ddychryn, ond unwaith rwyt ti wedi sgwennu brawddeg, dydi’r dudalen ddim yn wag wedyn. Rhaid sgwennu, sgwennu a sgwennu – paid ag aros am yr awen, neu’r amser iawn, efallai mai aros fyddi di. Mae’n syniad da cystadlu hefyd – mae digon o gyfle yng Nghymru i gystadlu’n gyfrinachol trwy ddefnyddio ffug enw – yna cei di feirniadaeth heb i neb wybod mai ti oedd yn cystadlu!  Ond os na chei di feirniadaeth i dy blesio, paid a thorri dy galon, a dal ati – dydi beirniaid ddim bob amser yn gwybod y cwbl!

Beth sydd gen ti ar y gweill nesaf? Oes gen ti unrhyw straeon neu hanesion eraill ti’n ysu i gael eu dweud?

Dwi wrthi’n sgwennu nofel i oedolion ar hyn o bryd – wedi ei gosod yn y presennol, felly mae’n wahanol i’r llyfrau dwi wedi eu hysgrifennu’n ddiweddar.

Rydw i’n ysu hefyd i ysgrifennu storiau ffantasi – yn arbennig am greaduriaid neu gymeriadau sy’n byw yn nghilfachau’r meddwl…

Mae ‘Gwenwyn a Gwasgod Felen’ ar gael o’ch siop lyfrau leol neu carreg-gwalch.cymru am £6.99. Bydd pecyn addysg i gydfynd a’r nofel hefyd ar gael ar-lein yn fuan.

Bob Trôns ac Atishw Gan Leusa Fflur Llewelyn a Dosbarth 3 a 4 Ysgol Pentre Uchaf

Deffrodd Bob Jones o drwmgwsg, ac agor ei geg led y pen i ddylyfu gên. Dyna gamgymeriad. Llifodd llond lle o ddŵr dillad budur i mewn drwy ei geg agored a lawr ei gorn gwddw fel neidr oer lysnafeddog– ych a fi.

Ond sut ar wyneb y ddaear y llwyddodd dŵr dillad budur i gyrraedd ceg Bob druan, ac yntau yn amlwg yn ei wely yn cysgu yn drwm? Wel mi ddyweda i wrthach chi sut. Mae Bob Jones yn byw mewn peiriant golchi dillad. Mae’n ddyn bach bach. Mae’n llai na llygoden, yr un mor fach ag ŵy, cyn lleied â thanjarîn ac union yr un maint â’i gefnder, Taid – sy’n byw mewn cloc rhywle yng Ngogledd Cymru.

Ar ôl pesychu am ddau funud i gael gwared o’r dŵr budur o’i geg, oedodd Bob – a chofio ei bod yn ben-blwydd arno. HWRE! Crafodd ei ben moel, a meddwl yn galed. Faint oedd ei oed o eto? Roedd o’n eithaf hen yn reit siŵr, mor hen nes ei fod wedi byw mewn mangl ddillad ddau gan mlynedd yn ôl. Mor ofnadwy o hen nes ei fod wedi byw o dan garreg cyn hynny gyda dim ond pryf genwair a dau bryf lludw yn gwmni.

Yn sydyn cofiodd faint oedd ei oedran. Roedd heddiw yn ben-blwydd pwysig iawn. Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi 2018 – roedd Bob Jones yn dathlu ei ben-blwydd yn DDWY FIL OED. Waw. Dyna i chi hen. Doedd Dewi Sant ddim hyd yn oed wedi cael ei eni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Pe byddai Bob Jones yn gallu gwneud gwyrthiau, fel rhoi hances ar y ddaear ag achosi i fryn bach godi o dan ei draed, efallai mai Dydd Gŵyl Bob Sant fydden ni yn ei ddathlu heddiw. Ond yn anffodus, yr unig wyrth y mae Bob yn gallu ei chyflawni yw dal ei wynt o dan y dŵr am amser hir tra fod y peiriant golchi yn troi a throi am ddwy awr.

Edrychodd Bob o’i amgylch yn nrwm y peiriant golchi. Oedd yna gacen neu anrheg yn aros amdano? Yn anffodus doedd dim byd i’w weld ond sanau yn dawnsio yn y swigod a’r dŵr budr. “Dyna siom” meddai wrth ei anifail anwes, Twm y Gwm Cnoi. Ond atebodd Twm mohono – gan mai gwm cnoi oedd o, a doedd ganddo ddim ceg. I ddweud y gwir doedd Twm y Gwm Cnoi ddim yn gwmni da iawn. Doedd o ddim yn gwneud llawer o ddim byd heblaw sticio i bethau. Oherwydd hyn, roedd Bob Jones braidd yn unig.

Tybiodd iddo deimlo deigryn yn rowlio lawr ei foch, ond cofiodd ei fod mewn peiriant golchi dillad – a fod dŵr yn tasgu dros ei ben fel rhaeadr. Dagrau’r dillad. Gafaelodd Bob yn dynnach yn Twm y Gwm Cnoi, ei unig ffrind yn y byd.

Daeth Bob o hyd i staen sôs coch ar grys-T. Un o’i hoff fwydydd. Sugnodd ar y staen sôs coch nes fod y crys T yn lân. “Mmmm blasus”. Dwy awr yn ddiweddarach, a daeth sŵn “bîîîîb” y peiriant golchi i nodi fod y dillad yn lân. Gwisgodd Bob drôns ar ei ben fel het, a neidio o’r peiriant ar ei gerbyd chwim – y sugnwr llwch pwerus coch. Y model diweddaraf. Pwysodd Bob y botwm ‘ymlaen’ a ffwrdd â fo am dro i’r gegin i chwilio am stwffin a pharti pen-blwydd.

* * *

Roedd Atishw yn eistedd yn y peiriant sychu dillad yn chwythu ei thrwyn hefo hances boced pan welodd Bob yn gwibio heibio mewn cerbyd coch smart iawn. Roedd Atishw yn hogan swil, felly cuddiodd tu ôl i ddrws y peiriant rhag ofn i Bob ei gweld. Ond roedd llwch dillad sych yn cosi ei thrwyn, ac yn sydyn roedd hi wedi tishian mor uchel dros y lle nes dychryn Bob yn wirion – gan achosi iddo ddisgyn oddi ar y sugnwr llwch ar ei hyd ar lawr.

“Attttttishw!” gwaeddodd Atishw.

“Aaaaaaaw!” gwaeddodd Bob. Roedd ei ben-blwydd yn mynd o ddrwg i waeth.

O diar. Roedd Atishw yn ofnadwy o swil, ond roedd yn rhaid iddi fentro allan i ymddiheuro.

“…Atishw ydw i. A sori am dy ddychryn di. Dwi yn tishan yn aml iawn, dyna sut ces i fy enw. ATISHW!”

“Hmmm. Mi gei faddeuant. Bob Jones ydw i, a heddiw mae hi’n ben-blwydd arbennig iawn arna i. Ddoi di i’r gegin hefo fi i chwilio am barti?”

Wrth i Bob gyflwyno ei hun, daeth tishan arall swnllyd o geg Atishw, felly glywodd hi mo’i enw yn iawn. Edrychodd ar y pâr o drôns ar ben Bob, a phenderfynu mae’n rhaid mai Bob Trôns ddywedodd o. Dyna enw od. Bob Trôns. Ew roedd Atishw yn swil, ond roedd y sugnwr llwch coch yn edrych mor smart nes nad oedd hi’n gallu gwrthod cynnig Bob. Felly i ffwrdd a’r ddau am dro yn y cerbyd coch i’r gegin. Yn y gegin roedd llond plât o gacenni cri.

“Hwrê! Cacen ben-blwydd o’r diwedd, mae rhywun wedi cofio!” meddai Bob, cyn cychwyn bwyta llond ei fol.

“ATISHW!” atebodd Atishw wrth i baill ddisgyn arni o glwstwr o gennin pedr uwch ei phen. “Pen-blwydd Hapus Bob Trôns! ATISHW!”

Roedd y ddau yn cael modd i fyw yn y parti pen-blwydd, yn dawnsio hefo’r radio ac yn bwyta nes eu bod bron yn sâl. Ond yn sydyn daeth sŵn o’r drws ffrynt…roedd perchnogion y tŷ wedi cyrraedd adre. Rhedodd y ddau i guddio ar y silff ffenest tu ôl i’r potyn siwgr.

“LLYGOD!!” gwaeddodd Mam o’r gegin, o weld fod ôl dannedd bychain yn y cacenni cri, a rhedodd i’r cwt i nôl trap.

“Mae’n rhaid i ni ddianc drwy’r ffenestr!” meddai Bob, a ffwrdd a’r ddau nerth eu traed drwy’r ffenestr cyn i Mam ddychwelyd, a glanio ar silff y ffenestr tu allan. Roedd y llawr dan eu traed yn bell bell i ffwrdd, yn ddibyn serth i’r ddau berson bychan bach yma.

Doedd dim ond un peth amdani – cerdded yn ofalus ar hyd y lein ddillad i gyrraedd y pen draw.

Cychwynnodd y ddau yn araf, fel dau berfformiwr mewn syrcas, eu breichiau ar led i gadw balans. Un cam, dau gam, tri cham….pedwar cant o gamau – bron yno! Neidiodd Atishw a glanio’n ddiogel yr ochr draw. Yn sydyn, dechreuodd y lein ddillad ysgwyd, a neidio, a llamu i bob cyfeiriad. Ceisiodd Bob ei orau i aros ar ei draed, ond â dim ond dau gam ar ôl…disgynnodd yn bendramwnwgl o’r lein.

“NAAAAAAAAAAAAAA!” gwaeddodd Atishw, a rhedeg i chwilio am Bob ymysg y gwair a dant y llew. Ond er chwilio a chwilio, doedd dim golwg ohono. Dychwelodd Atishw i’r peiriant sychu dillad yn benisel.

* * *

Y prynhawn wedyn, roedd Atishw yn eistedd yn ei chartref yn y peiriant sychu dillad â dagrau yn llifo i lawr ei hwyneb. O’r diwedd, roedd hi wedi cwrdd â ffrind newydd, ond roedd hi wedi ei golli yn syth bin. Roedd hi hefyd yn teimlo’n euog, yn amau mai ei bai hi oedd y cwbl. Efallai fod y lein ddillad wedi ysgwyd ar bwrpas i ddial ar Atishw am fyw yn y peiriant sychu dillad – gelyn pennaf y lein ddillad hen-ffasiwn.

Daeth y perchennog â llwyth o ddillad gwlyb mewn basged, a’u stwffio i mewn at Atishw. Caeodd y drws, a cychwynnodd y peiriant chwythu gwynt poeth bendigedig drosti a throi rownd a rownd. Roedd y peiriant yn teimlo mor gyffyrddus nes iddi gychwyn hepian cysgu.

“Help!”

Meddyliodd Atishw ei bod yn clywed llais bach yn gweiddi help. Mae’n rhaid mai cychwyn breuddwydio oedd hi.

“HELP!” meddai’r llais eto – yn uwch tro ‘ma. Agorodd Atishw ei llygaid led y pen, roedd yr hosan o’i blaen yn siarad!

“HELPA FI I DDOD O’R HOSAN YMA!” meddai llais coblyn o gyfarwydd. A dyma Atishw yn gafael yn yr hosan, ac yn ei thynnu, ac yn sydyn – dyna lle’r oedd ei ffrind yn sefyll – Bob Trôns. Cofleidiodd y ddau yn hapus.

Roedd Bob wedi disgyn oddi ar y lein ddillad i mewn i hosan fawr gyffyrddus, a wedi cael ei gludo yn y fasged olchi i’r peiriant sychu dillad ar ôl i’r perchnogion adael y dillad ar y lein dros nos yn y glaw.

Diolch byth!

Roedd Bob ar fin cychwyn yn ôl am ei gartref yn y peiriant golchi dillad, pan ofynnodd Atishw,

“Beth am i ti aros yma hefo fi? Mae fy nghartref i yn glyd ac yn gynnes. A does na ddim dŵr dillad budur yn dy wlychu di bob dydd…”

Meddyliodd Bob am y cynnig hwn am funud. Mi fyddai yn methu’r staens sôs coch yn arw. Tynnodd Twm y Gwm Cnoi o’i boced a gofyn a fyddai hwnnw yn meindio yn arw symud tŷ? Ddywedodd Twm ddim gair. Cymerodd Bob hynny fel arwydd da, a felly cytunodd – ar un amod.

“Iawn, ddo i fyw atat ti Atishw. Ar un amod – dy fod di yn stopio fy ngalw i’n Bob Trôns. Bob Jones ydi fy enw!”

“ATISHW!” atebodd Atishw, a dechreuodd y ddau chwerthin llond eu boliau.

Y DIWEDD

leusa 1.JPG

leusa
Mae Dyn Bach y Cloc a Deiniol y Dylwythen Deg Drwsgl ar werth am 4.99 o’ch siop lyfrau Cymraeg neu oddi ar http://www.carreg-gwalch.cymru

Lliwiau Byd Natur

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ABC Byd Natur gan Luned Aaron, enillydd gwobr Tir na n-Og 2017, mae Lliwiau Byd Natur yn boeth yn y siopau!

Fel ABC Byd Natur, byd natur sy’n ysbrydoli lluniau lliwgar y gyfrol hon. Dyma gyfle gwych i blentyn nabod lliwiau yng nghwmni Mam, Dad, Nain neu Taid cyn mentro i’r ardd a phrofi holl liwiau’r enfys. Hefyd, cawn ein cyflwyno i sawl lliw arall sy’n cuddio yn ei chist.

Medd Luned:  ‘Bu cipio gwobr Tir na n-Og gyda ABC Byd Natur yn fraint mawr ac yn hwb creadigol eithriadol. Mae gweld lliwiau yn un o ryfeddodau cynnar pob plentyn, a chan fod natur mor lliwgar ac amrywiol, dewis naturiol oedd cynllunio cyfrol chwareus a synhwyrus arall. Dwi’n gobeithio y bydd y gyfrol yn ysgogiad i rieni eistedd i lawr â’u plant i fwynhau a nabod lliwiau gyda’i gilydd.’

Yn ddiweddar, cafodd sawl plentyn a dosbarth lwcus y cyfle i fwynhau gweithdai celf ABC Byd Natur gyda Luned yn ystod ei thaith awdur a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Bydd cyfle arall i greu a bod yn greadigol gyda Luned wrth iddi ddathlu cyhoeddi ei chyfrol yn yr ŵyl Llên Plant yng Nghaerdydd. Cynhelir sesiwn Lliwiau Byd Natur ar ddydd Sadwrn, 21ain o Ebrill am 2 o’r gloch. Mae croeso cynnes i bawb!

luned aaron
Luned yn mwynhau gweithdy celf gyda phlant Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

£5.95. Ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg neu oddi ar https://carreg-gwalch.cymru

Broliant:

Mae saith lliw yn yr enfys. Ond yng nghist ei thrysor mae lliwiau lu!
Faint o liwiau wyt ti’n adnabod?
 Tyrd i adnabod lliwiau drwy luniau hardd y gyfrol hon. Yna, bydd yn barod i fynd am dro lliwgar 
gyda Mam neu Dad.

Am yr awdur:

Mae Luned Aaron yn ddarlunwraig sy’n arbrofi gyda chyfryngau amrywiol. Mae hi’n arddangos ei gwaith yn gyson yn Oriel Albany yng Nghaerdydd ac Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhen Llŷn.

Ymateb i waith Luned Aaron:

Heb air o gelwydd, dyma gyfrol fendigedig a fydd yn siŵr o greu argraff ar blant bach – adolygiad Mari Siôn o ABC Byd Natur, ymddangosodd yn y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt.

Pwyntiau Ychwanegol

Bydd sesiwn Lliwiau Byd Natur gyda Luned yn yr ŵyl Llên Plant yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 21ain o Ebrill am 2 o’r gloch. Bydd cyfle i greu ac mae croeso cynnes i bawb!

Am fanylion pellach, copïau adolygu neu gyfweliad â’r awdur, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch ar 01492 642031 neu llanrwst@carreg-gwalch.com