Taith Gŵyl San Steffan: Y Garn, Mynydd Drws y Coed a Thrum y Ddysgl

Mae Dydd San Steffan yn rhyw ail ’Ddolig mewn llawer o gartrefi ar draws Cymru, ond beth am greu atgof gwahanol eleni a chael criw i fynd am dro? Wedi’r gorfwyta ar ddiwrnod ’Dolig, does yna ddim antidote gwell.

Un o fy hoff droeon i yn y byd ydi Crib Nantlle; dechrau ar droed Llyn y Gadair yn Rhyd Ddu, a cherdded ar hyd y saith copa nes disgyn ger dyfroedd Llyn Cwm Dulyn yn Nebo. O’r copaon mi fedra i weld yr holl ffordd dros fro fy mebyd, o Gaernarfon i Ddyffryn Nantlle. I’r de ymestynna Moel Lefn, Moel yr Ogof a Moel Hebog yn atsain o chwedlau am Owain Glyndŵr, a thu ôl i fanno gallaf weld Pen Llŷn, ac ar ddiwrnod clir, Enlli.

40
Ar lethr y Garn yn edrych draw am Lyn y Gadair a’r Aran.

Dyma Ddyffryn Nantlle, bro lle mae’r chwarel dal yn ein gwaed a’i chreithiau dal ar y tir. Felly ar ddiwrnod braf o hirddydd haf, mi faswn i yn argymell y dro llawn, ar hyd Crib Nantlle o un pen i’r llall (Taith 18 yn llyfr Copaon Cymru). Ond gan ei bod hi’n Rhagfyr, a’r dydd yn fyr, mae’n bosib cael y golygfeydd, a thro gwerth chweil, heb wneud yr holl daith.

Man Cychwyn: Mae lle cyfyng i barcio cyn troi i mewn i Rhyd Ddu ar y B4418, neu ym maes parcio’r rheilffordd yn Rhyd Ddu.

Mae giât a llwybr amlwg i gyfeiriad y Garn o’r tro yn y ffordd. Dilynwch y llwybr, mae’n wastad am y 300 metr cyntaf ond buan y teimlwch y tir yn dechrau esgyn. Mi fyddwch yn croesi dwy gamfa, ac mae’r codi yn serth, ond mae’r golygfeydd am yr Wyddfa a Llyn y Gadair oddi tano yn hyfryd. Dringa’r llwybr at ymyl clogwyn dramatig, a dowch at dir caregog. Mentrwch yn ofalus drostynt neu mae modd eu hosgoi wrth gadw i’r chwith – anelwch at y copa.

Gallwch gael paned a thamaid o ginio yn y guddfan gerrig ar y top, ac os ydi hyn yn ddigon o dro ar Ddydd San Steffan, trowch nôl a dilyn ôl troed eich hun ar bob cyfri.

42
Ffrindiau ar gopa’r Garn.

Neu, os am dro ychydig pellach, ewch ymlaen i’r De Orllewin i gyfeiriad Mynydd Drws y Coed. Mae angen defnyddio eich dwylo, cryfder eich coesau a phen am uchder i groesi ambell ddarn o’r grib yma, Dyma’r darn fwyaf heriol, ond unwaith yr ydych wedi’i basio, buan iawn y byddwch ar gopa’r ail fynydd – Mynydd Drws y Coed.

Mae’r llwybr yn amlwg o’r copa, mi fyddwch yn croesi camfa ac mae mymryn o godi a disgyn, wrth gerdded dros grib arall i gyfeiriad Trum y Ddysgl.

43

44

45
Yr olygfa i lawr am Fwlch y Ddwy Elor a Moel Hebog

Rwy’n hoff iawn o’r grib yma hefyd oherwydd fod y cerdded yn hamddenol wedi’r codi cyntaf. Mae Trum y Ddysgl yn gopa fflat, yn fraich sydd yn ymestyn am y Gorllewin. A dyma’r copa olaf, ond rhaid cerdded i gyfeiriad Mynydd Tal-y-Mignedd. Ond, yn hytrach na chario ymlaen i’r Gorllewin, gwyrwch i’r chwith a disgyn efo’r llethr i Fwlch y Ddwy Elor, gyda Chwm Pennant ar y dde a’r goedwig ar y chwith.

Disgynnwch i’r goedwig, a gwneud eich ffordd yn nôl am y car. Tro hyfryd, cofiwch eich map, digon o fwyd a diod, a dillad addas. Os am fwy o ysbrydoliaeth am droeon eraill yng Nghymru- be am gael copi o’r llyfr newydd sbon, gwych – Copaon Cymru?

 Mwynhewch y crwydro,

Mari Huws

Mae Copaon Cymru sy’n cynnwys 48 o deithiau mynydd ar gael am £15 oddi ar wefan y wasg: www.carreg-gwalch.com neu o unrhyw siop lyfrau Cymraeg. Golygydd y gyfrol yw Eryl Owain, a theithiau aelodau Clwb Mynydda Cymru sydd yma. Mae Mari Huws, cyfranwr y blog yn aelod o Glwb Mynydda Cymru.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s