Rhys Mwyn sy’n chwalu ffiniau yn ei gyfrol newydd ar archeoleg – Cam Arall i’r Gorffennol

Cam Arall i’r Gorffennol  – Cyhoeddir gan Gwasg Carreg Gwalch am £8.50. Ar gael oddi ar wefan y wasg neu o unrhyw siop lyfrau Cymraeg.

Rhys Mwyn sy’n trafod ei gyfrol newydd…

Rwyf newydd gyhoeddi cyfrol newydd ar archaeoleg gogledd-ddwyrain a gororau Cymru. Fel un a fagwyd yn Sir Drefaldwyn roedd yn braf iawn cael crwydro’r rhan yma o’r byd unwaith eto – a hynny  i bwrpas. Byddaf yn son yn aml wrth bobl fod llefyddd fel Sir Drefaldwyn angen eu crwydro, angen eu ‘darganfod’ ac wrth fynd ati i sgwennu’r gyfrol yma fe geisiais roi pwyslais pendant iawn ar y teithiau cerdded, ar y crwydro, ar y darganfod.

Rhoddais gydnabyddiaeth i’r gyfres Crwydro Cymru (Dryw) o’r 1950au, ac er mai prin yw’r cynnwys archaeolegol yn y gyfres honno, mae’r ysbryd yr union ru’n peth – ewch allan i gwydro a darganfod. Meddyliaf am gân Woodie Guthrie, wedi ei haddasu gan Dafydd Iwan ac Edward, ‘Mae’n Wlad i Mi’, felly mae angen ei hadnabod hi, darganfod y lonydd bach di-arffordd a’r llwybrau cudd yn ogystal ac ymgyrchu drosti yn wleidyddol.

O ran y meddylfryd tu cefn i’r llyfr, heblaw am yr archaeoleg amlwg, roedd sawl agwedd pwysig. Yn gyntaf roeddwn yn awyddus iawn i awgrymu fod y ffin rhwng archaeoleg (neu hanes Cymru) a’r dirwedd ddiwylliannol yn un sydd yn cyd-redeg, llaw yn llaw, ochr yn ochr. Yn hytrach na creu ffiniau fel gyda cloddiau Offa, Wat a Chwitffordd (Pennod 6) ymdrechais i chwalu ffiniau neu yn sicr eu drysu fymryn.

Yn ail, y dylanwad mawr i mi, o ran y syniad yma o gwrydro, yw damcaniaeth seico-ddaearyddiaeth, ac er fod y ddamcaniaeth honno fel arfer yn un trefol ac yn ymwneud a chrwydro strydoedd heb gynllun pwrpasol, credaf fod Mike Parker yn ei gyfrol Real Powys (2011) wedi dangos fod modd trosglwyddo’r brwdfrydedd dros ddarganfod a chrwydro i’r dirwedd wledig.

Os unrhywbeth, mae trawsblannu damcaniaethau i’r ardd Gymraeg yn fwy o hwyl na’u cyfieithu nhw yn llythrennol. Drwy drawsblannu cawn wreiddiau Cymreig, maeth a phridd Cymreig ac o ganlyniad – cawn rhywbeth gwahanol. Felly mae’r gantores werin Sian James yn gwneud ymddangosiad yn y gyfrol ac yn cael canmoliaeth haeddiannol. Does dim modd gwerthfawrogi hanes Dyffryn Banw heb y gerddoriaeth.

Cawn fewnbwn archaeolegol/hanesyddol gan artistiad fel Eleri a Christine Mills. Efallai y dyliwn fod wedi gofyn am gelf ganddynt hefyd. Ond, mae’r pwynt yn cael ei wneud. Drwy chwalu’r ffiniau mae celf ac archaeoleg yn gallu rhannu pennod.  A felly hefyd gyda’r clawr. Dyma’r drydedd agwedd bwysig i mi.

Eleri Mills Sian James  Olwen Chapman Gardden autobright.jpg
Eleri Mills, Sian James, Olwen Chapman

Mor hawdd fyddai defnyddio llun du a gwyn a chynllunio clawr ddigon effeithiol, ond lle mae’r stori wedyn? Felly gyda’r ddwy gyfrol: Cam i’r Gorffennol (clawr gan Iwan Gwyn Parry) a Cam Arall i’r Gorffennol (clawr gan Meirion Ginsberg) dyma greu darn o gelf o’r newydd drwy wahodd artistiaid cyfoes i ddod hefo mi am dro – i ymuno ar y daith.

Rhys a Meirion Ginsberg Cerrig yr Helfa Haf 2016.jpg
Rhys a Meirion Ginsberg, Cerrig yr Helfa, Haf 2016

Bu rhaid i’r ddau artist chwysu a cherdded. Fe gafodd y ddau artist ‘ddarlith archaeolegol’ gennyf wrth i ni gerdded mynydd a mawndir ond wedyn fe gafodd y ddau artist ddehongli heb gyfarwyddyd. Roedd yn bwysig cael golwg arall, golwg yr artist, ar yr archaeoleg a chawsom ddim ein siomi.

Wrth gyhoeddi’r gyfrol, teimlaf yn hyderus fod cam pendant wedi ei chymeryd tuag at ddrysu ychydig ar ffiniau’r gwahanol ddisgyblaethau, wedi’r cyfan y lle yma, Cymru, yr iaith a’r diwylliant yw’r peth pwysig. Dyma pam mae rhywun yn creu …

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s