“… A diolch hefyd fod gennym yng Nghymru awdur Cymraeg sy’n feistr ar y grefft o ysgrifennu nofel dditectif.” Tweli Griffiths

John Alwyn Griffiths 2013.jpeg

Dan Groen Ditectif

dewch i nabod  John Alwyn Griffiths yn well, jest mewn pryd cyn agor tudalennau ei nofel newydd, Dan ei Adain  …

Tydi’r Suliau ddim yn dawel heb raglen drosedd ar y sgrin fach. Tydi Dechrau Canu Dechrau Canmol ddim yn ddigon swnllyd ac mae’n well gennym ni droelli yn nhrobwll tywyll bywyd. Mae mwy o wefr. Rydan ni ar dân yn ceisio datrys pwy laddodd pwy ar raglenni trosedd a ditectif fel Y Gwyll, The Bridge a Bang. Cyn datrys y dirgelwch, mae’n rhaid cael ein taflu i gorneli o drais, blacmel, rhyw, twyll, lladd a therfysg.

Daeth John Alwyn Griffiths i ddeall hyn ymhell cyn ymddangosiad sawl cyfres dditectif boblogaidd ar S4C. Roedd o eisoes wedi sgwennu sawl nofel dditectif iasol erbyn i bennod gyntaf Y Gwyll ein taflu i’r trobwll. Nid syndod mo hynny wrth gofio cefndir John yn yr heddlu, yn dditectif y rhan fwyaf o’i yrfa ac yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru hyd nes ei ymddeoliad yn 1998. Bellach, mae’n awdur chwe nofel dditectif, ac ‘yn awdurdod ar y nofel dditectif Gymraeg’ yng ngeiriau Dafydd Ifans.

Ac yntau wedi bod a’i drwyn mewn bydoedd tywyll a throseddol, mae John yn hen gyfarwydd â phlotiau anghyfreithlon − ond mae sawl cyfrinach i blotio nofel dditectif…

Ymysg ei nofelau mae Dan Ddylanwad, Dan Gwmwl Du, Dan Ewyn y Don,  Dan Amheuaeth a’i nofel newydd afaelgar ac annisgwyl, Dan ei Adain.

Dan Ei Adain

Mae’r rhain yn ferw o sgandals ac rydym yn symud o ddarganfod corff merch ifanc ar draeth , smyglo pobl ar raddfa ryngwladol, llygredd cyngor sir a blacmel, marwolaeth putain, ffrwydrad cwch pysgota a dihiryn sydd â’i fryd ar ddial ar y prif gymeriad ei hun, y ditectif Jeff Evans.

Mae John yn nabod castiau troseddwyr fel cefn ei law ond dechreuodd boeni ei fod yn troi’n droseddwr ei hun tra oedd yn sgwennu Dan Ewyn y Don. ‘Ro’n i angen gwybod sut i ffrwydro pwerdy ar gyfer y stori,’ eglura, ‘felly mi wnes i fwydo Google gyda “How do you blow up a powerstation?” Ges i’r atebion yn syth. Roedd nifer o bapurau America yn egluro sut i atal gwneud, oedd yn cynnwys arfau a chliwiau, felly roedd y rhain yn datgelu’r wybodaeth ro’n i angen. Buasai wedi bod yn ddigon hawdd i rhywun sylwi ar fy chwiliadau amheus yn GCHQ, a byddai rhywun yn hawdd wedi gallu credu mai terfysgwr yn y Dwyrain Canol o’n i! Yn y pen draw, angen gwybod be fyddai ei angen i wneud ffrwydrad digon cryf i dreiddio drwy waliau cadarn, llydan o amgylch adweithydd niwclear o’n i. Os ydw i’n cynnwys digwyddiad felly mewn nofel, mae’n rhaid rhoi ffeithiau sy’n dal dŵr.’

Ond fel pob nofel dditectif dda, ffuglen a gwaith dychymyg sydd yma. Rhaid bod yn broffesiynol gyda chyfrinachedd, a thynnu ar ei brofiadau o wahanol rannau o’i yrfa i greu stori afaelgar a wna John. ‘Mae llawer iawn yn ddychmygol ond mi alla i roi mwy o gig a gwaed ar bethau yn sgil fy mhrofiadau. Mae angen i bobl goelio yn y stori a dyna lle mae fy nghefndir i’n ddefnyddiol. Mae un o’r nofelau’n trafod herwgipio – dwi wedi cael fy hyfforddi i ddelio gyda hynny. Mae un arall yn archwilio sefyllfa lle mae heddweision yn camymddwyn – dwi wedi gweld rhywfaint o hynny yn fy nydd hefyd, yn enwedig mewn dinasoedd mawr yn Lloegr. Dwi’n tynnu oddi ar bob math o brofiadau mewn gwirionedd, twyll a llygredd yn y sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru hyd yn oed. Mae’n fyd brawychus.

‘Bu’n rhaid i mi wneud dipyn o ymchwil ar gyfer Dan Gwmwl Du sy’n sôn am human trafficking o Ddwyrain Ewrop i Brydain. Mae’n brofiad difyr. Wrth ymchwilio i’r pwnc er mwyn creu hanes ffug am Gymro oedd wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd yn Romania, mi wnes i ddarganfod carchar go iawn o’r enw Gerla – yng nghanol Transylvania! Lle gwell, medda chi?’

Er mai lleoliad canolog  nofelau John yw tref glan môr ddychmygol Glan Morfa, mae’r nofelau’n plethu plotiau a lleoliadau tu hwnt i’r ffin, a’u naws yn rhyngwladol. Mae gan droseddwyr craff feddyliau eang iawn, mae’n rhaid. Ond bro rhwng môr a mynydd yw Glan Morfa – cafodd John ei ysbrydoliaeth o Fôn a Phwllheli, a tydi’r Wyddfa ddim yn bell. ‘Dwi wedi dod ar draws nifer o gymeriadau Cymraeg dros y blynyddoedd, o bob cwr o ogledd Cymru − cymeriadau diddorol gyda ffordd arbennig o ddweud stori.’ Chwip o gymeriad yw Nansi’r Nos, hysbysydd y Ditectif Jeff Evans, sydd mewn un nofel yn cyflenwi Jeff ei hun gyda chanabis fel triniaeth amgen i gyflwr oedd ar ei wraig. ‘Roedd gen i hysbyswyr fy hun, faint fynnir ar hyd y blynyddoedd. Rhaid bod ynghanol lladron i’w dal nhw, dyna pam fod hysbyswyr yn bwysig i’r heddlu,’ meddai’r awdur. Does dim rhaid dweud i Nansi’r Nos gael ei seilio ar hysbysydd Cymraeg o ogledd Cymru … felly gwyliwch chi, does dim dal pwy sy’n cerdded o gwmpas strydoedd Caernarfon, Caergybi a Phwllheli!

Yn ganolog i’r nofelau mae’r Ditectif Sarjant Jeff Evans. ‘Mae sawl ditectif yn rhan o Jeff,’ meddai John. ‘Mae gan bawb eu cryfderau a’u gwendidau mewn gwirionedd, ac un felly ydi Jeff. Mae ychydig ohona i ynddo fo, ond cafodd Jeff ei enwi ar ôl dau o’m cydweithwyr oedd yn andros o gymeriadau, sef Ditectif Sarjant Phil Evans a’r Ditectif Jeff Guile − o’r ddau yma y daeth yr enw “Jeff Evans”. Ond Huw Vevar oedd y dylanwad mwyaf wrth roi personoliaeth i Jeff, ditectif arall ro’n i’n hoff iawn ohono. Yn gyffredin yn y rhain i gyd mae’r awch i ddod at y gwir, a natur weithgar a chydwybodol. Does ’run ditectif da yn cymryd ‘na’ fel ateb, ac un styfnig felly ydi Jeff Evans.’

Ydi, mae John yn hoff o raglenni ditectif, ond mae ffilmiau’r gorllewin gwyllt yn chwarae rhan. ‘Mae Once Upon a Time in the West’ yn ddylanwad mawr ac roedd plot y ffilm yn ddefnyddiol wrth gynllunio Dan Ddylanwad. Yr hanes ydi bod Henry Fonder, y gun slinger, yn ceisio clirio ffordd i wneud rheilffordd ac yn lladd unrhyw un oedd yn ei rwystro i wneud hynny er mwyn perchnogi’r tir. Fe wnes i droi’r plot hwnnw yn Dan Ddylanwad fel bod un dyn yn cael ei yrru i gael gwared ar wraig weddw sy berchen fferm ger Glan Morfa, er mwyn i eraill brynu’r ffarm a’i defnyddio hi i adeiladu safle niwclear. Fydda i ddim yn dwyn plot o nunlle, ond yn sicr mae dylanwadau.’

Wrth fentro mewn i swyddfa John Alwyn Griffiths yn ei gartref, mae ôl meddwl craff fel un Jeff Evans i’w weld. Un sy’n casglu gwybodaeth a thystiolaeth er mwyn creu jig-so sy’n anodd ei orffen. Mewn ffeiliau trwchus, mae sawl gwe pry cop a mapiau meddwl. Ffeiliau troseddol y nofelau eraill sydd ganddo ar y gweill yw’r rhain, ac erbyn i un o’i nofelau ymddangos o’r wasg, gallwch fod yn sicr y bydd yn ddwfn ym mhlot y nesaf. Yn amlwg, does dim diwedd ar ddychymyg John nac ar anturiaethau Ditectif Jeff Evans!

Mae Dan ei Adain, nofel dditectif ddiweddara John ar gael o unrhyw siop lyfrau Cymraeg  am £8.50 neu oddi ar www.carreg-gwalch.com

 

Straeon Alun Wyn Bevan

Wrth ddathlu cyfrol Alun Wyn Bevan yng nghlwb criced Castell-nedd a llofft Tafarn y Fic, Llithfaen, gwnaed hynny drwy rubanu straeon o’r byd chwaraeon. Gyda doniau llafar amlwg fel Huw Llywelyn Davies, Dafydd Hywel a Clive Rowlands yn bresennol, roedd y chwedlau’n llifo.

Mae Alun ei hun yn cynnwys llawer o straeon yn ei ysgrifau sy’n ein closio at ei ddetholiad o bersonoliaethau o fyd chwaraeon. Wrth ddisgrifio hoffter Ray Gravell o Iwerddon a’i phobl, cawn y berl hon ganddo:

Mae yna gannoedd ar gannoedd o westai yn Nulyn ond ffefryn Ray o’dd y Shelbourne gyferbyn â Pharc St Stephen’s Green. Mae’n lle llawn hanes, traddodiad a diwylliant. Y noson cyn y daith i Galway, fe benderfynodd y ddau ohonom ga’l te prynhawn yn y lolfa foethus, a thra ro’dd y canolwr cydnerth yn rhamantu am y gorffennol, dynesodd gwraig olygus ganol oed tuag atom:

       Mary:                Are you, by chance, Ray Gravell who played for Wales back in the 1970s?

       Ray:                   Well, yes. I’m surprised you recognised me.

       Mary:                Mr Gravell – this is your bill, which is outstanding since 1974.

       Ray:                   O! Mary fach!

Gan fod Alun a Cleif wedi treulio deng mlynedd yn sylwebu ar gemau ar Radio Cymru gyda’i gilydd, roedd rhai o’r straeon yn deillio o fyd y cyfryngau. Huw Llywelyn Davies oedd y triger pan ddywedodd ei bod hi’n rhyfedd, gyda’r gêm rygbi’n cael ei chysylltu gymaint â’r cymoedd diwydiannol, fod cynifer o’r cyflenwyr yn ogleddwyr. Ciw i Cleif wneud synau gyddfol, gogleddol wrth ddynwared Aled ap Dafydd. Ac yna’r stori: roedd Cymru’n chwarae yn yr Eidal a Cleif ac Alun yn sylwebu. Ychydig cyn y gic gyntaf dyma lais Aled ap Dafydd y cyflwynydd o’r stiwdio yng Nghaerdydd (Cleif yn dynwared eto). Y cyfarwyddwr yn yr Eidal yn sibrwd wrth Cleif ac Alun – ‘Ydych chi’n mynd i ateb Aled?’ ‘Ond ŷn ni ddim wedi deall y cwestiwn achan!’ Ar hynny, dyma’r gêm yn dechrau. Hanner amser, dyma’r cyfarwyddwr yn gofyn i Aled a allai o ofyn ei gwestiwn eto gan nad oedd y sylwebwyr yn yr Eidal wedi ei glywed yn iawn. ‘Nid cwestiwn oedd o,’ meddai Aled. ‘Deud rwbath yn Eidaleg o’n i!’

Roedd yn rhaid i stori arall am y Gogs ddilyn honno. Yn 1980, yn ystod tymor cynta Clwb Rygbi Nant Conwy, derbyniodd y clwb docynnau rhyngwladol am y tro cyntaf i’w gwerthu i’w haelodau. Dyma lond car yn cychwyn o stadau tai Cae’r Felin a Chae Tyddyn ar fore Gwener. Roedd rhai eisoes wedi cyfaddef ar y ffordd i chwarae’n erbyn y Bala ychydig ynghynt nad oeddent wedi bod ymhellach i’r de na Phentrefoelas cyn hynny. Drwy lwc, roedd Ianto o Lanelli, bachwr Nant, yn cyfarwyddo’r teithio wrth ochr y dreifar. I ffwrdd â nhw drwy Langollen a heibio Amwythig. ‘Ydan ni ar y ffordd iawn Ianto?’ Chydig o bryder am gyfnod gan fod yr Hwntw hyderus ychydig yn dawel. Toc, dacw arwydd ‘The South’ – ‘Ydan dan ni’n iawn, union fel dwedais i,’ meddai Ianto. Ymlaen â nhw yn ffyddiog heibio rhes o enwau diarth ar arwyddion ffyrdd. ‘Oes yna glwb rygbi ym mhob un o’r llefydd yma, Iant?’ ‘Siŵr o fod, mae ’na un ym mhob pentref yn y De.’ ‘Ti ’di chwarae yn eu herbyn nhw?’ ‘Na – yn y Gorllewin oeddwn i’n chwarae. West is Best!’ Dal i fynd yn eu blaenau. Bum awr wedi gadael Llanrwst, dyma weld arwydd ‘Heathrow 10 milltir’.

Yn y gyfrol, mae gan Alun bennod arbennig sy’n gwerthfawrogi Clive Rowlands.

‘Beth felly oedd cyfrinach Clive Rowlands? Yn syml, ei onestrwydd, ei ddiffuantrwydd, ei wybodaeth yn ogystal â’i gymeriad byrlymus a charismataidd. Ro’dd pawb yn dwlu arno, gan gynnwys y rheiny o’dd yn gw’bod dim am rygbi ac yn tiwnio mewn i’r gwasanaeth cenedlaethol ar brynhawne Sadwrn er mwyn clywed ei acen, ei lais a’i hiwmor iach. Tra oedd Emyr a Derwyn a finne’n disgrifio cic o dro’d chwaraewr fel un aneffeithiol neu ddigyfeiriad, bydde Clive yn manteisio ar y tawelwch er mwyn i’r genedl gyfan glywed cymalau a brawddegau o’dd wedi’u bathu yn ystafell ffrynt y bynglo yn Hewl Glyncynwal: “’Na ti gic potel bop!” Ro’dd gan hwn y ddawn i wella rheiny o’dd yn diodde’ o iselder ysbryd.’

Mae ffraethineb a chymeriad y cyn-ddewiswr yn cael ei amlygu yn y stori hon gan fyddai Gareth Edwards yn ffonio cartref Clive yn gyson cyn y byddai’r tîm cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi yn y saith degau:

Gareth:             Margaret – os modd ca’l un gair bach â Clive? [Margaret o’dd fel arfer yn ateb y ffôn]

Margaret:        Clive! Ma’ Gareth am ga’l gair â ti. Dere glou!

Clive:                Ie. Be’ ti’n moyn?

Gareth:             Wel, ma’r garfan yn ca’l ei chyhoeddi ’fory. Ydw i yn y tîm?

Clive:                Gareth – alla i byth â dweud. Ma’n ngwaith i fel hyfforddwr yn dibynnu’n llwyr ar
onestrwydd a chadw cyfrinache. Dwi’n gw’bod yr ateb i dy gwestiwn, ond ’smo i’n fo’lon
dweud.

Gareth:             Ond Clive . . .!

Clive:                Sori, Gareth. Ry’n ni’n ’nabod ein gilydd yn dda – y ddau ohonon ni’n siarad Cymra’g ac yn
dod o’r un ardal ond ’smo i’n fo’lon dweud!

Gareth:             Ond Clive . . . !

Clive:                Disghwl Gareth. Alla i byth â dweud os wyt ti yn y tîm. Ond fe alla i ddweud hyn – dwyt ti
ddim mas o’r tîm!

Gareth:             Diolch Clive – joia dy ddiwrnod!

Cofiwn am Alun Wyn Bevan y dyfarnwr, wrth gwrs ac wrth gyflwyno’r bennod honno, dywedodd Huw Llywelyn Davies ei bod yn nodweddiadol o’r awdur – bod chwarae teg a chyfiawnder yn dod uwchlaw’r gyfraith a gyrfa iddo. Dyma sut yr adroddir hi yn y gyfrol am ei hanes yn dyfarnu Cymru dan 16 oed yn erbyn Lloegr.

‘Dyfarnwyd cic gosb i Loegr. Ymlaen y camodd eu maswr Alastair Roberts i geisio hawlio pwyntiau cynta’r prynhawn. Ac ynte wrthi’n paratoi, cynyddu wnaeth y sŵn, ac erbyn iddo osod ei droed i’r bêl, roedd trigolion Llandaf a Chyncoed yn clywed twrw o seiniau aflafar. Methu wnaeth Roberts. Y dorf sylweddol yn eu seithfed ne’. Efalle mai’r ymdeimlad o ’ware teg o’dd yn gyfrifol, ond fe stopes i’r gêm, camu i gyfeiriad y llumanwr a gofyn iddo gysylltu â’r gŵr ar yr uchelseinydd. Am funud neu ddwy bu tawelwch llethol. Yna cyhoeddodd y byddai’r maswr yn cael ail gyfle o ganlyniad i ymddygiad anghymdeithasol y dorf. Camodd Robert Jones, capten Cymru ymlaen i fy nghwestiynu. Roedd yna lwmp yn fy nwddf pan eglurais iddo. “Robert, nid y tîm oedd ar fai. Cosbi’r dorf wnes i.” Derbyniodd y capten bonheddig y penderfyniad gan gefnogi’r safiad.’

Alun Wyn Bevan – Atgofion Oes ymysg y Campau.

56 o benodau am gymeriadau a phrofiadau difyr ym myd y campau. Gwasg Carreg Gwalch £8.50.

23316411_1773278022973604_6144160651888265336_n.jpg