“… A diolch hefyd fod gennym yng Nghymru awdur Cymraeg sy’n feistr ar y grefft o ysgrifennu nofel dditectif.” Tweli Griffiths

John Alwyn Griffiths 2013.jpeg

Dan Groen Ditectif

dewch i nabod  John Alwyn Griffiths yn well, jest mewn pryd cyn agor tudalennau ei nofel newydd, Dan ei Adain  …

Tydi’r Suliau ddim yn dawel heb raglen drosedd ar y sgrin fach. Tydi Dechrau Canu Dechrau Canmol ddim yn ddigon swnllyd ac mae’n well gennym ni droelli yn nhrobwll tywyll bywyd. Mae mwy o wefr. Rydan ni ar dân yn ceisio datrys pwy laddodd pwy ar raglenni trosedd a ditectif fel Y Gwyll, The Bridge a Bang. Cyn datrys y dirgelwch, mae’n rhaid cael ein taflu i gorneli o drais, blacmel, rhyw, twyll, lladd a therfysg.

Daeth John Alwyn Griffiths i ddeall hyn ymhell cyn ymddangosiad sawl cyfres dditectif boblogaidd ar S4C. Roedd o eisoes wedi sgwennu sawl nofel dditectif iasol erbyn i bennod gyntaf Y Gwyll ein taflu i’r trobwll. Nid syndod mo hynny wrth gofio cefndir John yn yr heddlu, yn dditectif y rhan fwyaf o’i yrfa ac yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru hyd nes ei ymddeoliad yn 1998. Bellach, mae’n awdur chwe nofel dditectif, ac ‘yn awdurdod ar y nofel dditectif Gymraeg’ yng ngeiriau Dafydd Ifans.

Ac yntau wedi bod a’i drwyn mewn bydoedd tywyll a throseddol, mae John yn hen gyfarwydd â phlotiau anghyfreithlon − ond mae sawl cyfrinach i blotio nofel dditectif…

Ymysg ei nofelau mae Dan Ddylanwad, Dan Gwmwl Du, Dan Ewyn y Don,  Dan Amheuaeth a’i nofel newydd afaelgar ac annisgwyl, Dan ei Adain.

Dan Ei Adain

Mae’r rhain yn ferw o sgandals ac rydym yn symud o ddarganfod corff merch ifanc ar draeth , smyglo pobl ar raddfa ryngwladol, llygredd cyngor sir a blacmel, marwolaeth putain, ffrwydrad cwch pysgota a dihiryn sydd â’i fryd ar ddial ar y prif gymeriad ei hun, y ditectif Jeff Evans.

Mae John yn nabod castiau troseddwyr fel cefn ei law ond dechreuodd boeni ei fod yn troi’n droseddwr ei hun tra oedd yn sgwennu Dan Ewyn y Don. ‘Ro’n i angen gwybod sut i ffrwydro pwerdy ar gyfer y stori,’ eglura, ‘felly mi wnes i fwydo Google gyda “How do you blow up a powerstation?” Ges i’r atebion yn syth. Roedd nifer o bapurau America yn egluro sut i atal gwneud, oedd yn cynnwys arfau a chliwiau, felly roedd y rhain yn datgelu’r wybodaeth ro’n i angen. Buasai wedi bod yn ddigon hawdd i rhywun sylwi ar fy chwiliadau amheus yn GCHQ, a byddai rhywun yn hawdd wedi gallu credu mai terfysgwr yn y Dwyrain Canol o’n i! Yn y pen draw, angen gwybod be fyddai ei angen i wneud ffrwydrad digon cryf i dreiddio drwy waliau cadarn, llydan o amgylch adweithydd niwclear o’n i. Os ydw i’n cynnwys digwyddiad felly mewn nofel, mae’n rhaid rhoi ffeithiau sy’n dal dŵr.’

Ond fel pob nofel dditectif dda, ffuglen a gwaith dychymyg sydd yma. Rhaid bod yn broffesiynol gyda chyfrinachedd, a thynnu ar ei brofiadau o wahanol rannau o’i yrfa i greu stori afaelgar a wna John. ‘Mae llawer iawn yn ddychmygol ond mi alla i roi mwy o gig a gwaed ar bethau yn sgil fy mhrofiadau. Mae angen i bobl goelio yn y stori a dyna lle mae fy nghefndir i’n ddefnyddiol. Mae un o’r nofelau’n trafod herwgipio – dwi wedi cael fy hyfforddi i ddelio gyda hynny. Mae un arall yn archwilio sefyllfa lle mae heddweision yn camymddwyn – dwi wedi gweld rhywfaint o hynny yn fy nydd hefyd, yn enwedig mewn dinasoedd mawr yn Lloegr. Dwi’n tynnu oddi ar bob math o brofiadau mewn gwirionedd, twyll a llygredd yn y sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru hyd yn oed. Mae’n fyd brawychus.

‘Bu’n rhaid i mi wneud dipyn o ymchwil ar gyfer Dan Gwmwl Du sy’n sôn am human trafficking o Ddwyrain Ewrop i Brydain. Mae’n brofiad difyr. Wrth ymchwilio i’r pwnc er mwyn creu hanes ffug am Gymro oedd wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd yn Romania, mi wnes i ddarganfod carchar go iawn o’r enw Gerla – yng nghanol Transylvania! Lle gwell, medda chi?’

Er mai lleoliad canolog  nofelau John yw tref glan môr ddychmygol Glan Morfa, mae’r nofelau’n plethu plotiau a lleoliadau tu hwnt i’r ffin, a’u naws yn rhyngwladol. Mae gan droseddwyr craff feddyliau eang iawn, mae’n rhaid. Ond bro rhwng môr a mynydd yw Glan Morfa – cafodd John ei ysbrydoliaeth o Fôn a Phwllheli, a tydi’r Wyddfa ddim yn bell. ‘Dwi wedi dod ar draws nifer o gymeriadau Cymraeg dros y blynyddoedd, o bob cwr o ogledd Cymru − cymeriadau diddorol gyda ffordd arbennig o ddweud stori.’ Chwip o gymeriad yw Nansi’r Nos, hysbysydd y Ditectif Jeff Evans, sydd mewn un nofel yn cyflenwi Jeff ei hun gyda chanabis fel triniaeth amgen i gyflwr oedd ar ei wraig. ‘Roedd gen i hysbyswyr fy hun, faint fynnir ar hyd y blynyddoedd. Rhaid bod ynghanol lladron i’w dal nhw, dyna pam fod hysbyswyr yn bwysig i’r heddlu,’ meddai’r awdur. Does dim rhaid dweud i Nansi’r Nos gael ei seilio ar hysbysydd Cymraeg o ogledd Cymru … felly gwyliwch chi, does dim dal pwy sy’n cerdded o gwmpas strydoedd Caernarfon, Caergybi a Phwllheli!

Yn ganolog i’r nofelau mae’r Ditectif Sarjant Jeff Evans. ‘Mae sawl ditectif yn rhan o Jeff,’ meddai John. ‘Mae gan bawb eu cryfderau a’u gwendidau mewn gwirionedd, ac un felly ydi Jeff. Mae ychydig ohona i ynddo fo, ond cafodd Jeff ei enwi ar ôl dau o’m cydweithwyr oedd yn andros o gymeriadau, sef Ditectif Sarjant Phil Evans a’r Ditectif Jeff Guile − o’r ddau yma y daeth yr enw “Jeff Evans”. Ond Huw Vevar oedd y dylanwad mwyaf wrth roi personoliaeth i Jeff, ditectif arall ro’n i’n hoff iawn ohono. Yn gyffredin yn y rhain i gyd mae’r awch i ddod at y gwir, a natur weithgar a chydwybodol. Does ’run ditectif da yn cymryd ‘na’ fel ateb, ac un styfnig felly ydi Jeff Evans.’

Ydi, mae John yn hoff o raglenni ditectif, ond mae ffilmiau’r gorllewin gwyllt yn chwarae rhan. ‘Mae Once Upon a Time in the West’ yn ddylanwad mawr ac roedd plot y ffilm yn ddefnyddiol wrth gynllunio Dan Ddylanwad. Yr hanes ydi bod Henry Fonder, y gun slinger, yn ceisio clirio ffordd i wneud rheilffordd ac yn lladd unrhyw un oedd yn ei rwystro i wneud hynny er mwyn perchnogi’r tir. Fe wnes i droi’r plot hwnnw yn Dan Ddylanwad fel bod un dyn yn cael ei yrru i gael gwared ar wraig weddw sy berchen fferm ger Glan Morfa, er mwyn i eraill brynu’r ffarm a’i defnyddio hi i adeiladu safle niwclear. Fydda i ddim yn dwyn plot o nunlle, ond yn sicr mae dylanwadau.’

Wrth fentro mewn i swyddfa John Alwyn Griffiths yn ei gartref, mae ôl meddwl craff fel un Jeff Evans i’w weld. Un sy’n casglu gwybodaeth a thystiolaeth er mwyn creu jig-so sy’n anodd ei orffen. Mewn ffeiliau trwchus, mae sawl gwe pry cop a mapiau meddwl. Ffeiliau troseddol y nofelau eraill sydd ganddo ar y gweill yw’r rhain, ac erbyn i un o’i nofelau ymddangos o’r wasg, gallwch fod yn sicr y bydd yn ddwfn ym mhlot y nesaf. Yn amlwg, does dim diwedd ar ddychymyg John nac ar anturiaethau Ditectif Jeff Evans!

Mae Dan ei Adain, nofel dditectif ddiweddara John ar gael o unrhyw siop lyfrau Cymraeg  am £8.50 neu oddi ar www.carreg-gwalch.com

 

Straeon Alun Wyn Bevan

Wrth ddathlu cyfrol Alun Wyn Bevan yng nghlwb criced Castell-nedd a llofft Tafarn y Fic, Llithfaen, gwnaed hynny drwy rubanu straeon o’r byd chwaraeon. Gyda doniau llafar amlwg fel Huw Llywelyn Davies, Dafydd Hywel a Clive Rowlands yn bresennol, roedd y chwedlau’n llifo.

Mae Alun ei hun yn cynnwys llawer o straeon yn ei ysgrifau sy’n ein closio at ei ddetholiad o bersonoliaethau o fyd chwaraeon. Wrth ddisgrifio hoffter Ray Gravell o Iwerddon a’i phobl, cawn y berl hon ganddo:

Mae yna gannoedd ar gannoedd o westai yn Nulyn ond ffefryn Ray o’dd y Shelbourne gyferbyn â Pharc St Stephen’s Green. Mae’n lle llawn hanes, traddodiad a diwylliant. Y noson cyn y daith i Galway, fe benderfynodd y ddau ohonom ga’l te prynhawn yn y lolfa foethus, a thra ro’dd y canolwr cydnerth yn rhamantu am y gorffennol, dynesodd gwraig olygus ganol oed tuag atom:

       Mary:                Are you, by chance, Ray Gravell who played for Wales back in the 1970s?

       Ray:                   Well, yes. I’m surprised you recognised me.

       Mary:                Mr Gravell – this is your bill, which is outstanding since 1974.

       Ray:                   O! Mary fach!

Gan fod Alun a Cleif wedi treulio deng mlynedd yn sylwebu ar gemau ar Radio Cymru gyda’i gilydd, roedd rhai o’r straeon yn deillio o fyd y cyfryngau. Huw Llywelyn Davies oedd y triger pan ddywedodd ei bod hi’n rhyfedd, gyda’r gêm rygbi’n cael ei chysylltu gymaint â’r cymoedd diwydiannol, fod cynifer o’r cyflenwyr yn ogleddwyr. Ciw i Cleif wneud synau gyddfol, gogleddol wrth ddynwared Aled ap Dafydd. Ac yna’r stori: roedd Cymru’n chwarae yn yr Eidal a Cleif ac Alun yn sylwebu. Ychydig cyn y gic gyntaf dyma lais Aled ap Dafydd y cyflwynydd o’r stiwdio yng Nghaerdydd (Cleif yn dynwared eto). Y cyfarwyddwr yn yr Eidal yn sibrwd wrth Cleif ac Alun – ‘Ydych chi’n mynd i ateb Aled?’ ‘Ond ŷn ni ddim wedi deall y cwestiwn achan!’ Ar hynny, dyma’r gêm yn dechrau. Hanner amser, dyma’r cyfarwyddwr yn gofyn i Aled a allai o ofyn ei gwestiwn eto gan nad oedd y sylwebwyr yn yr Eidal wedi ei glywed yn iawn. ‘Nid cwestiwn oedd o,’ meddai Aled. ‘Deud rwbath yn Eidaleg o’n i!’

Roedd yn rhaid i stori arall am y Gogs ddilyn honno. Yn 1980, yn ystod tymor cynta Clwb Rygbi Nant Conwy, derbyniodd y clwb docynnau rhyngwladol am y tro cyntaf i’w gwerthu i’w haelodau. Dyma lond car yn cychwyn o stadau tai Cae’r Felin a Chae Tyddyn ar fore Gwener. Roedd rhai eisoes wedi cyfaddef ar y ffordd i chwarae’n erbyn y Bala ychydig ynghynt nad oeddent wedi bod ymhellach i’r de na Phentrefoelas cyn hynny. Drwy lwc, roedd Ianto o Lanelli, bachwr Nant, yn cyfarwyddo’r teithio wrth ochr y dreifar. I ffwrdd â nhw drwy Langollen a heibio Amwythig. ‘Ydan ni ar y ffordd iawn Ianto?’ Chydig o bryder am gyfnod gan fod yr Hwntw hyderus ychydig yn dawel. Toc, dacw arwydd ‘The South’ – ‘Ydan dan ni’n iawn, union fel dwedais i,’ meddai Ianto. Ymlaen â nhw yn ffyddiog heibio rhes o enwau diarth ar arwyddion ffyrdd. ‘Oes yna glwb rygbi ym mhob un o’r llefydd yma, Iant?’ ‘Siŵr o fod, mae ’na un ym mhob pentref yn y De.’ ‘Ti ’di chwarae yn eu herbyn nhw?’ ‘Na – yn y Gorllewin oeddwn i’n chwarae. West is Best!’ Dal i fynd yn eu blaenau. Bum awr wedi gadael Llanrwst, dyma weld arwydd ‘Heathrow 10 milltir’.

Yn y gyfrol, mae gan Alun bennod arbennig sy’n gwerthfawrogi Clive Rowlands.

‘Beth felly oedd cyfrinach Clive Rowlands? Yn syml, ei onestrwydd, ei ddiffuantrwydd, ei wybodaeth yn ogystal â’i gymeriad byrlymus a charismataidd. Ro’dd pawb yn dwlu arno, gan gynnwys y rheiny o’dd yn gw’bod dim am rygbi ac yn tiwnio mewn i’r gwasanaeth cenedlaethol ar brynhawne Sadwrn er mwyn clywed ei acen, ei lais a’i hiwmor iach. Tra oedd Emyr a Derwyn a finne’n disgrifio cic o dro’d chwaraewr fel un aneffeithiol neu ddigyfeiriad, bydde Clive yn manteisio ar y tawelwch er mwyn i’r genedl gyfan glywed cymalau a brawddegau o’dd wedi’u bathu yn ystafell ffrynt y bynglo yn Hewl Glyncynwal: “’Na ti gic potel bop!” Ro’dd gan hwn y ddawn i wella rheiny o’dd yn diodde’ o iselder ysbryd.’

Mae ffraethineb a chymeriad y cyn-ddewiswr yn cael ei amlygu yn y stori hon gan fyddai Gareth Edwards yn ffonio cartref Clive yn gyson cyn y byddai’r tîm cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi yn y saith degau:

Gareth:             Margaret – os modd ca’l un gair bach â Clive? [Margaret o’dd fel arfer yn ateb y ffôn]

Margaret:        Clive! Ma’ Gareth am ga’l gair â ti. Dere glou!

Clive:                Ie. Be’ ti’n moyn?

Gareth:             Wel, ma’r garfan yn ca’l ei chyhoeddi ’fory. Ydw i yn y tîm?

Clive:                Gareth – alla i byth â dweud. Ma’n ngwaith i fel hyfforddwr yn dibynnu’n llwyr ar
onestrwydd a chadw cyfrinache. Dwi’n gw’bod yr ateb i dy gwestiwn, ond ’smo i’n fo’lon
dweud.

Gareth:             Ond Clive . . .!

Clive:                Sori, Gareth. Ry’n ni’n ’nabod ein gilydd yn dda – y ddau ohonon ni’n siarad Cymra’g ac yn
dod o’r un ardal ond ’smo i’n fo’lon dweud!

Gareth:             Ond Clive . . . !

Clive:                Disghwl Gareth. Alla i byth â dweud os wyt ti yn y tîm. Ond fe alla i ddweud hyn – dwyt ti
ddim mas o’r tîm!

Gareth:             Diolch Clive – joia dy ddiwrnod!

Cofiwn am Alun Wyn Bevan y dyfarnwr, wrth gwrs ac wrth gyflwyno’r bennod honno, dywedodd Huw Llywelyn Davies ei bod yn nodweddiadol o’r awdur – bod chwarae teg a chyfiawnder yn dod uwchlaw’r gyfraith a gyrfa iddo. Dyma sut yr adroddir hi yn y gyfrol am ei hanes yn dyfarnu Cymru dan 16 oed yn erbyn Lloegr.

‘Dyfarnwyd cic gosb i Loegr. Ymlaen y camodd eu maswr Alastair Roberts i geisio hawlio pwyntiau cynta’r prynhawn. Ac ynte wrthi’n paratoi, cynyddu wnaeth y sŵn, ac erbyn iddo osod ei droed i’r bêl, roedd trigolion Llandaf a Chyncoed yn clywed twrw o seiniau aflafar. Methu wnaeth Roberts. Y dorf sylweddol yn eu seithfed ne’. Efalle mai’r ymdeimlad o ’ware teg o’dd yn gyfrifol, ond fe stopes i’r gêm, camu i gyfeiriad y llumanwr a gofyn iddo gysylltu â’r gŵr ar yr uchelseinydd. Am funud neu ddwy bu tawelwch llethol. Yna cyhoeddodd y byddai’r maswr yn cael ail gyfle o ganlyniad i ymddygiad anghymdeithasol y dorf. Camodd Robert Jones, capten Cymru ymlaen i fy nghwestiynu. Roedd yna lwmp yn fy nwddf pan eglurais iddo. “Robert, nid y tîm oedd ar fai. Cosbi’r dorf wnes i.” Derbyniodd y capten bonheddig y penderfyniad gan gefnogi’r safiad.’

Alun Wyn Bevan – Atgofion Oes ymysg y Campau.

56 o benodau am gymeriadau a phrofiadau difyr ym myd y campau. Gwasg Carreg Gwalch £8.50.

23316411_1773278022973604_6144160651888265336_n.jpg

‘Gwenu fel cath bot’

Cath Bot.jpg

 

Mae’r dywediad ‘gwirioni’n bot’ yn tarddu, o bosib, â gwenu fel cath bot. Roedd cathod porselin yn gyffredin ers talwm, ac yn aml iawn roedd rhyw wên wirion ar eu hwynebau.

Yn Saesneg, mae’r dywediad ‘to grin like a Cheshire cat’ i’w glywed o hyd. Mae’r ‘Cheshire cat’ yn un o gymeriadau rhyfedd Lewis Carroll yn Alice’s Adventures in Wonderland – ond mae’n seiliedig ar draddodiad hŷn na hynny. Hoff ddehongliad pobl sir Gaer ydi bod y sir yn enwog am ei ffermydd llaeth ac felly bod digon i gadw’r cathod yn hapus. Yn hynny o beth, gall fod yn tarddu o’r un gwreiddyn â’r idiom Cymraeg: ‘gwenu fel cath wedi cael ei llefrith’. Awgrym arall yw mai cyfeiriad at ‘bot llefrith cadw’ ydi’r un yn y dywediad Cymraeg – roedd pot pridd felly gyda chaead llechen arno ar bob fferm oedd yn corddi.

Ond mae hanesyn arall yn esbonio pam mai dywediad braidd yn sbeitlyd ydi’r un am y ‘Cheshire cat’, gan awgrymu bod rhywun yn dangos gormod o’i ddannedd a chig ei ddannedd wrth wenu. Ers talwm, meddir, roedd peintiwr arwyddion tafarnau yn sir Gaer ac mi baentiodd sawl llun ar gyfer tafarnau o’r enw ‘Lion’. Yn anffodus, roedd rhai o’r llewod yma’n debycach i gathod – ac roedd yna wên wirion braidd ar eu safnau nhw.

‘gwenu fel be’ ddwedwch chi?

Llyfr newydd! “Romp gwyllt a gwallgof”: Yr Eumenides gan Daniel Davies

Lai na chwe mis ar ôl i’w nofel ddiwethaf, Allez Les Gallois, ddod o’r wasg, mae Daniel Davies ar fin cyhoeddi un arall!

Yr Eumenides.jpg

Daeth Yr Eumenides yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Sir Fynwy y llynedd gan ennyn canmoliaeth uchel gan y beirniaid, Gareth F. Williams, Jon Gower a Fflur Dafydd, am ei hiwmor a’i dyfeisgarwch.

Tair menyw yn eu hwythdegau yw prif gymeriadau Yr Eumenides: Nora, Gwen ac Ina, sy’n sylweddoli eu bod yn wynebu bywyd byr a diflas gan nad oes gan yr un ohonynt gynilion i’w cadw.Yn ogystal â cheisio ennill digon o arian i osgoi tlodi yn ystod eu blynyddoedd olaf, mae’r tair ynghlwm ag ymgais miliwnydd lleol i ddarganfod etifedd iddo’i hun yn dilyn sawl uniad rhamantus yn ystod ei ieuenctid.

Meddai Daniel, ‘Ar un lefel mae’r nofel hon yn stori gomig am hen fenywod sy’n ceisio dod allan o bicil ariannol drwy ddwyn o dai haf. Ond mae’r nofel hefyd yn cynnig ymateb i haneswyr ac economegwyr asgell dde fel Niall Ferguson sy’n ceisio beio’r genhedlaeth hŷn am fethiannau enbyd cyfalafiaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Ei honiad yw bod y system gyfalafol yn cael ei thagu am fod pobl yn byw’n rhy hir. Mae Yr Eumenides yn delio â goblygiadau damcaniaethau annilys o’r fath.’

Fel nifer o’i nofelau, mae Yr Eumenides wedi’i gosod yng Ngheredigion, ardal sy’n agos at galon Daniel; yn nhref glan-môr brydferth Ceinewydd. Ond nid y darlun-cerdyn-post traddodiadol o’r dref sydd yma − y tu allan i’r tymor ymwelwyr mae’r pentref yn un gwahanol iawn. Mae’r tai gwyliau i gyd yn wag, a’r strydoedd yn dawel.

‘Mae’r nofel hefyd yn ymdrin â’r annhegwch cymdeithasol sy’n bodoli oherwydd y sefyllfa tai haf yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae poblogaeth pentrefi fel y Cei yn disgyn dros draean yn ystod y gaeaf. Mae teulu Gwen Edwards yn cynrychioli’r sefyllfa anfoesol sy’n golygu bod sawl cenhedlaeth yn gorfod byw gyda’i gilydd tra bod dros hanner y tai yn y pentre’n wag,’ eglura Daniel.

Yn ôl ei arfer, mae Daniel wedi creu nofel ddoniol, grafog sy’n codi sawl sgwarnog − ac ar ôl ei darllen byddwch yn edrych ar ferched hŷn (a sgwteri Shopmobility) mewn goleuni gwahanol iawn.

‘Rwy’i wedi mynd ati i geisio adlewyrchu bywydau nifer o’r bobl hŷn rwy’n eu hadnabod. Pobl sy’n llawn bywyd a bwrlwm yn eu hwythdegau, yn wahanol i’r ddelwedd arferol o anobaith musgrell.’

Ymateb i’r nofel:

“Nid wyf yn credu i mi chwerthin cymaint wrth ddarllen nofel Gymraeg ers tro”Gareth F. Williams

“Romp gwyllt a gwallgof sy’n ategiad gwych i lenyddiaeth gyfoes Gymraeg”  – Fflur Dafydd

“Hawdd yw dychmygu Yr Eumenides yn cyfieithu’n ffilm boblogaidd”   – Jon Gower

Am yr awdur:

Ganwyd Daniel Davies yn Llanarth ac mae’n dal i fyw yng Ngheredigion. Mae’n newyddiadurwr profiadol ac yn awdur nifer o lyfrau, yn cynnwys cyfrol o straeon byrion, Twist ar 20, a’r nofelau Tair Rheol Anhrefn (enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011), Pelé Gerson a’r Angel, Gwylliaid Glyndŵr, Hei-Ho ac Allez Les Gallois (sydd wedi’i gosod yn Ffrainc yn ystod pencampwriaethau’r Ewros y llynedd).

Ar werth yn eich siop lyfrau lleol am £8.50! Mwynhewch!

Am fanylion pellach, copïau adolygu neu gyfweliad â’r awdur, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch ar 01492 642031 neu llanrwst@carreg-gwalch.com

LLAIS LLAFAR GWLAD: ‘Tîn fel torth Iwerddon’

Mae adfeilion Bythynnod y Gwyddelod i’w gweld yn Nant Gwrtheyrn o hyd – gweithwyr yn chwareli Cae’r Nant, Carreg y Llam a Phorth y Nant oedd yn byw yno pan oedd y gweithfeydd ithfaen yn eu bri. Byddai stemars yn llwytho sets ar y tri jeti ac roedd rhai o’r rheiny’n mynd i Ddulyn i wynebu strydoedd y ddinas honno. Roedd gan Wyddelod y barics drefniant gyda chapteiniaid stemars Dulyn eu bod yn cario nwyddau a chyflogau yn ôl ac ymlaen ar draws Môr Iwerddon. Yn ôl y sôn, roedd y Cymry’n eiddigeddus iawn o’r bara soda Gwyddelig a ddôi o Ddulyn ambell dro i roi gwledd arbennig i chwarelwyr y barics. Ond daeth y torthau mawr, crynion hyn yn rhan o Gymraeg yr ardal. Y dywediad (a glywir hyd heddiw), am ben ôl mawr yn Llithfaen yw: ‘tîn fel torth Iwerddon’.

Nid dim ond chwysu mewn chwareli a phyllau glo, a labro ar gamlesi a rheilffyrdd yr hen Ymerodraeth a wnaeth y Padis. Maent wedi ein cyfoethogi mewn sawl ffordd arall hefyd. Dim ond un enghraifft fechan o’r tlodi a all ddod yn sgil troi’n fwy ynysig a mewnblyg.

Rhowch wybod i ni beth fyddwch chi’n ei ddweud am dîn mawr!!!

TorthIwerddon ysgafn 57.jpg